Fel Teulu Duw, rydym yn byw, yn caru ac yn dysgu yn hapus gyda'n gilydd, gan wneud ein gorau glas ym mhopeth a wnawn.

Croeso i Ysgol Gynradd Gatholig y Bendigaid Williams

Mae bywyd ysgol Ysgol y Bendigaid William Davies yn seiliedig ar Werthoedd Cristnogol. Rydym yn cydnabod ac yn ymateb i anghenion pob plentyn.

Rydym yn ystyried anghenion academaidd pob plentyn, yn ogystal â datblygiad y plentyn cyfan fel unigolyn. Rydym yn datblygu plant hapus, bodlon, addysgedig a hyderus mewn amgylchedd disgybledig, llawn gofal gyda'n Ffydd fel canolbwynt i’n gweithredoedd. Rydym yn disgwyl, ac yn annog rhagoriaeth gan bob un o'n dysgwyr.

Mae addysg yn bartneriaeth rhwng y cartref, yr ysgol a’r plwyf. Rydym yn annog teuluoedd i gymryd rhan yn y broses ddysgu ac ym mywyd ehangach ein hysgol.

Rydym yn croesawu rhieni a gofalwyr fel partneriaid yn addysg eu plentyn ac yn natblygiad teulu ein hysgol.

Ysgol

A young boy in school uniform waving